Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 22
Hydref 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7170 gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn heddiw, 22 Hydref 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
(45 munud)
(45 munud)
Dogfen
Ategol
Pwysau Iach-Cymru
Iach
(45 munud)
Dogfennau
Ategol
Newidiadau
arfaethedig i wella diogelwch adeiladau preswyl
uchel
(45 munud)
(15 munud)
NDM7163 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad
y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
(15 munud)
NDM7164 - Rebecca Evans (Gwyr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Hadau (Diwygio etc.) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Hydref 2019.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a
Deddfwriaethol
(0 munud)
NNDM7170
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.
2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law.
Bil y Cytundeb Ymadael (Saesneg yn unig)
(90 munud)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.
2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law.
Withdrawal Agreement Bill (Saesneg yn unig)
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi sicrhau bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, i adael ar 31 Hydref 2019.
3. Yn gresynu at yr effaith andwyol y bydd oedi ac ansicrwydd pellach yn ei chael ar fusnesau Cymru, y sector cyhoeddus a sefydliadau anllywodraethol eraill.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU wrth iddi geisio deddfu i sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref 2019.
5. Yn credu, pe na bai'r Cytundeb Ymadael yn cael cefnogaeth Senedd y DU, y dylid cynnal etholiad cyffredinol yn y DU.
Gwelliant 2 – Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, os bydd Bil y Cytundeb Ymadael yn arwain at Brexit heb gytundeb, y dylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol Cymru.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 23 Hydref 2019